Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Economy, Infrastructure and Skills Committee

Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol

Regional Skills Partnerships

EIS(5) RSP23

Ymateb gan Tyfu Canolbarth Cymru

Evidence from Growing Mid Wales


Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn croesawu'r cyfle i ymateb i wahoddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau Cynulliad Cenedlaethol Cymru am sylwadau ar rôl ac effeithiolrwydd Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yng Nghymru. 

Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, a hon yw'r bartneriaeth economaidd ranbarthol sy'n cwmpasu ôl troed daearyddol Powys a Cheredigion.  Mae ganddi gynrychiolaeth sylweddol o'r sector preifat ynghyd â'r ddau Awdurdod Lleol, rhanddeiliaid rhanbarthol eraill, a rhanddeiliaid o'r sector gwirfoddol, addysg bellach ac addysg uwch. 

Cyd-destun

Mae 2019 yn flwyddyn o newid mawr yn y tirlun gwleidyddol ac economaidd, gan gynnwys pwyslais mawr ar ddatganoli cyfrifoldeb  i'r rhanbarthau gan Lywodraeth Cymru a

Llywodraeth y DU.  Ar y cyd â'r amserlenni heriol i ddatblygu Bargen Twf Canolbarth Cymru, ni fydd amser mwy pwysig i sicrhau bod y sgiliau iawn gennym yn rhanbarth Canolbarth Cymru.

Mae Adroddiad Graystone (2018) ar Lywodraethu Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn cydnabod y rôl y mae Tyfu Canolbarth Cymru yn ei chwarae o ran gosod blaenoriaethau ar gyfer sgiliau o fewn rhanbarth Canolbarth Cymru, gan ddatgan: “Hoffai Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, oherwydd ei statws economaidd a chymdeithasol unigryw, fod yn bartneriaeth sgiliau rhanbarthol ar wahân.  Dadleuir bod gan  ranbarth Canolbarth Cymru nifer o nodweddion unigryw sy'n golygu bod tyfu ei economi leol yn her.  Y nodweddion a restrir yw natur wledig yr ardal, gorddibyniaeth ar fusnesau bach a chanolig a pherifferoldeb.  Y farn yw bod cynllun rhanbarthol y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yn canolbwyntio gormod ar y Fargen Twf ym Mae Abertawe.  Mae Canolbarth Cymru yn colli llawer o bobl ifanc sy'n symud o'r ardal ac 'mae angen i ni dyfu ein pobl ifanc ein hunain'.

Mynegwyd pryderon yn y gorffennol nad yw'r cynlluniau cyflogaeth a sgiliau yn rhoi'r dystiolaeth fanwl neu'r naratif i Lywodraeth Cymru sydd eu hangen i gefnogi argymhellion cynllunio rhanbarthol ac ariannu.  Er bod Tyfu Canolbarth Cymru yn cytuno bod peth gwelliant wedi bod yn y maes hwn, nid yw lefel y manylion yn ddigonol o hyd er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus, a bu achosion yn aml lle nad yw data wedi cael ei dorri i lawr i lefel sydd yn ei wneud yn ddefnyddiol ac yn berthnasol i bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Nid yw'r rhan sylfaen dystiolaeth o'r cynllun bellach ar gael i'r cyhoedd. Mae hyn wedi ei gwneud hi'n anodd i ni ymgysylltu a darparu sylwadau defnyddiol.

Mae aelodau partneriaeth ac aelodau etholedig o'r awdurdodau wedi codi pryderon droeon ynghylch lefelau tryloywder ac ymgysylltu, yn ogystal ag effeithiolrwydd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru yn ardal Canolbarth Cymru.  Mae'r tensiynau, problemau a phryderon hyn yn parhau, a chawn wybod yn gyson gan bartïon eraill am weithgareddau y mae'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol yn gysylltiedig â nhw sy'n berthnasol iawn i'r agenda sgiliau yma yng Nghanolbarth Cymru.  Fodd bynnag, nid ydym yn cael gwybod yn uniongyrchol am y gweithgareddau hyn gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol ei hun, nac yn cael cyfle i gymryd rhan. Enghraifft ddiweddar o hyn yw Tasglu Sgiliau BREXIT a lywyddir gan Eluned Morgan. Mae sgiliau gwledig yn bwysig iawn yn rhanbarth Canolbarth Cymru, ac rydym wedi codi hyn dro ar ôl tro gyda'r Bartneriaeth

Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol. Fodd bynnag, nid oeddem wedi cael gwybod am y fforwm hwn nac wedi cael cyfle i gymryd rhan ynddo.

Er gwaethaf canllawiau Llywodraeth Cymru ar eu rôl, rydym hefyd wedi codi pryderon ynghylch gallu Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i feddwl yn y tymor hir.  Mae hyn yn hollbwysig yn wyneb yr amserlenni cynllunio fwyfwy tynn y mae'r rhanbarthau yn gweithio iddynt erbyn hyn o ganlyniad i'w cyfranogiad yn y Bargeinion Dinesig a'r Bargeinion Twf.  Rydym ni i gyd yn ceisio gweithio yn y tymor hir yn unol â'r dulliau gweithredu a hyrwyddir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ond cawn ein llesteirio gan gynllunio tymor byr ar gyfer sgiliau - maes polisi hanfodol sydd wedi symud ymhellach i ffwrdd o'n dylanwad rhanbarthol ni yma yng Nghanolbarth Cymru.

Cynnydd Hyd Yma

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn gweld bod achos cryf dros newid. O ran llywodraethu ac atebolrwydd, dylai penderfyniadau a blaenoriaethau gael eu gwneud gan y strwythurau a leolir yng Nghanolbarth Cymru sydd agosaf i'r cymunedau a wasanaethant ac yn unol â phwyslais Llywodraeth Crymu ar gydgysylltu a chydlynu wrth gyflenwi.

Ar hyn o bryd mae rhanddeiliaid yr Awdurdod Lleol yng Nghanolbarth Cymru wrthi'n sefydlu strwythurau rhanbarthol pellach - gan gynnwys pwyllgor ar y cyd, grŵp ymgysylltu y sector preifat, a swyddfa raglen ranbarthol - er mwyn datblygu rhaglen drawsnewidiol o fuddsoddiadau ar gyfer y rhanbarth, gan gynnwys Bargen Twf Canolbarth Cymru.  Bydd sgiliau yn ffurfio rôl hanfodol a sylfaenol yn y rhaglen hon, yn enwedig o gofio'r ystod eang o gamau gweithredu arloesol a welir ym meysydd ymchwil addysg uwch.

Mae Tyfu Canolbarth Cymru yn dadlau dros gael yr un adnoddau â'r tair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol eraill er mwyn gallu cymryd rhan yn effeithiol yn y Fargen Twf ar yr un sail â'r rhanbarthau eraill.  Mae Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf yn arwain ar gyfrifoldebau, trefniadau adrodd a dulliau ariannu newydd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn ogystal â'r sector preifat.  Mae Partneriaethau Dysgu Rhanbarthol wedi cael eu halinio'n strwythurol i chwarae rhan sylfaenol yn y bargeinion a gymeradwywyd eisoes - yn fyr, mae'r Partneriaeth Dysgu Rhanbarthol sy'n gwasanaethu rhanbarth Canolbarth Cymru ar hyn o bryd wedi alinio ei hun yn strwythurol yn benodol i ddarparu rhaglen economaidd drawsnewidiol ar gyfer rhanbarth arall.  Ni all gynnig yr un lefel o gydlyniant a chyfatebiaeth ar gyfer rhanbarth arall.

Mae'r cam cyntaf yn y broses o gytuno ar weledigaeth ar gyfer rhanbarth Canolbarth Cymru eisoes wedi cael ei gymryd, ac mae ymgynghorwyr allanol wedi cynnal ymarfer gosod man cychwyn ac ymgynghori helaeth er mwyn gallu nodi blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi o fewn Canolbarth Cymru (gweler yr atodedig).

Trwy ymgynghori’n helaeth â rhanddeiliaid rhanbarthol gan gynnwys y sector preifat, mae'r adroddiad wedi cadarnhau'r angen am system sgiliau benodedig, seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer Canolbarth Cymru sy'n ymateb i anghenion cyflogwyr yn y rhanbarth.  Bydd busnesau yn aml yn ei chael hi'n anodd i recriwtio staff sydd â'r sgiliau priodol, ac mae cael llai o weithlu yn gwneud hyn yn anoddach byth.

Beth Rydym yn Gofyn Amdano

Gofynnwn am berchnogaeth ranbarthol o'n hagenda sgiliau yng Nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod y buddsoddiadau cyfalaf a wneir yn y rhanbarth gan y rhanbarth, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn cael eu hategu'n llawn gan, a'u hintegreiddio gyda, mentrau sgiliau a berchenogir yn rhanbarthol er mwyn manteisio i'r eithaf ar effeithiolrwydd a gwerth buddsoddiad cyhoeddus.

Partneriaethau gwirfoddol yw PSRs sy'n cael dylanwad cynyddol ar y gwaith o flaenoriaethu a gwario tua £400 miliwn o gyllid cyhoeddus – gan gynnwys cyllid rhaglen brentisiaeth flaenllaw Llywodraeth Cymru a gwaith sefydliadau addysg bellach Cymru – yn cynyddu. Mae TCC fel cyd-bartneriaeth yn gofyn am gydraddoldeb wrth ddylanwadu ar y penderfyniadau cyllido hyn.

Byddai system arbennig i Ganolbarth Cymru yn cael ei harwain gan fwrdd sgiliau rhanbarthol neu grŵp strategol sy'n dwyn ynghyd rhanddeiliaid o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i roi sylw ar gyflenwi sgiliau a'r galw am sgiliau.  Bydd y dull seiliedig ar dystiolaeth yn llywio'r ddarpariaeth addysg a sgiliau o Gyfnod Allweddol 4 hyd at Addysg Uwch, a bydd yn nodi llwybrau gyrfa clir i gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc yn y rhanbarth.  Byddai sefydlu system o'r fath yn golygu bod Canolbarth Cymru ar sail gyfartal â'r rhanbarthau economaidd yng Nghymru a'r DU, sydd i gyd â byrddau sgiliau penodedig fel rhan o'u strwythurau llywodraethu a chyflenwi rhanbarthol.  Mae hyn yn cynnig modd iddynt gymryd rhan effeithiol yn y Bargeinion Dinas a Bargeinion Twf, yn ogystal â rhaglenni buddsoddi economaidd eraill.

Fodd bynnag, cydnabyddwn hefyd ei bod hi'n hanfodol i ddatblygu ffyrdd newydd ac arloesol o gyflenwi, oherwydd mae'n bosib na fydd yr hyn sy’n gweithio mewn rhannau eraill o Gymru yn ateb y gofyn yn ein hardal ni sy'n ardal wledig yn bennaf gyda nodweddion economaidd gwahanol iawn. 

Nid yw ymyraethau hanesyddol a'r strwythurau a phrosesau presennol yn darparu'r newid fesul cam y mae ei angen ar ranbarth Canolbarth Cymru ym maes addysg ôl-16 a chyflogaeth.  Mae hyn yn amlwg trwy'r ffaith bod y cyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros a Gwerth Ychwanegol Gros fesul y pen yn lleihau o'i gymharu â rhanbarthau economaidd eraill yng Nghymru, ac mae gan Bowys y Gwerth Ychwanegol Gros isaf fesul awr a weithir o'r 174 ardal NUTS yn y DU yn 2017 (65.2% o ffigur y DU).[1]  Eto i gyd mae cyfraddau llwyddiant myfyrwyr ymysg yr uchaf yng Nghymru. 

Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn ymrwymedig i hybu'r newid economaidd y mae ei angen ar Ganolbarth Cymru.  Byddem yn croesawu'r cyfle i drafod y mater hwn ymhellach gyda Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ac edrychwn ymlaen at glywed casgliadau'r Pwyllgor.

 



[1] StatsCymru